Bolle Rosa

English | Cymraeg

Gwin ffrwythus gyda chydbwysedd da rhwng melystra a surni

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 12

Os ydych chi am ddod o hyd i win da, mae pethau gwaeth gallech chi eu gwneud na gofyn i Eidalwr. Y cwestiwn a ofynnodd yr Eidalwr o Lundeiniwr Roberto Vanin iddo’i hun oedd a fyddai modd mwynhau holl bleserau noson wingar Eidalaidd, ond heb yr alcohol. Mae'n debyg fod.

Rhai pefriog yw diodydd Bolle – y gair Eidaleg am swigod. Cawson nhw eu creu gan ddefnyddio technoleg Zero Gradi™ i ail-eplesu gwin di-alcohol. Mae dau fath: Rosa ac Oro.

Mae’r Bolle Rosa yn ddiod fywiog gyda lliw gwritgoch braf. Mae hi’n ffrwythus gyda chydbwysedd da rhwng melystra a surni. Yfwch hi wedi’i hoeri’n dda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​