Maschio Sero

English | Cymraeg

Teilwng i gymryd lle Champagne neu Prosecco mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 18

Mae’r ddiod yma wedi dod atom ni o’r Eidal trwy Tesco. Mae hi’n ysgafn a bywiog – mor fywiog nes i’r corcyn neidio allan ar ei ben ei hyn! Mae’r blas yn sych braf, gydag awgrym o afalau gwyrdd sy’n para trwy’r adflas.

Mae hi wedi’i chyflwyno’n dda mewn potel drwsiadus, ac mae’n deilwng i gymryd lle Champagne neu Prosecco mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​