Belvoir Farm Alcohol-Free Passionfruit Martini

English | Cymraeg

Ein barn ar Belvoir Farm Alcohol-Free Passionfruit Martini

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 31
Sgôr: 3 o 5

Gan gychwyn ar fwrdd cegin y ffermdy, mae criw Fferm Belvoir yng nghefn gwlad sir Gaerlŷr wrthi ers canol yr 1980au yn creu diodydd ffrwythus blasus. Mae’r ddiod yma yn dipyn o fentr newydd iddyn nhw – ymgais i efelychu diod alcoholaidd draddodiadol, heb yr alcohol.

Fel arfer, mae Passionfruit Martini yn cael ei chreu â fanila, fodca, ffrwythau’r pasiwn, ac weithiau Prosecco (naill ai yn gymysg yn y coctel neu mewn grwydryn bach ar wahân). Mae hon yma gan Belvoir yn cynnwys yr holl ffrwythau a sbeis arferol wedi’u cymysgu gyda dŵr byrlymus, gan greu diod ysgafn ddymunol i oedolion. Mae ganddi fywiogrwydd Prosecco ond heb ormod o swigod. Mae’n gyforiog o flasau ffrwythus ond heb fod yn rhy felys. Dyw hi ddim yn debyg iawn Passionfruit Martini arferol ond hi’n bleserus iawn!

Mae hi wedi’i phecynnu’n rhagorol, fel holl ddiodydd Belvoir, ond mae’r label a’r enw yn codi cwestiwn diddorol ynglŷn â tynnu’r ffin (os oes ffin i’w chael) rhwng diodydd ysgafn hen-ffasiwn a’r dosbarth newydd o ddiodydd di-alcohol neu brin-eu-halcohol. Mae cytundeb anffurfiol tu fewn i’r diwydiant diodydd nad ar gyfer plant mae fersiynau di-alcohol o ddiodydd alcoholaidd. Ar y llaw arall, mae Sainsbury’s wedi gosod y Passionfruit Martini yma ar yr un silffoedd â diodydd eraill Belvoir, fel eu lemonêd a’u cwrw sinsir. Os bydd y farchnad ddirwestol yn dal i dyfu, efallai y bydd rhaid i gwmnïau fel Belvoir benderfynu ar ba silffoedd y dylai rhai o’u diodydd eistedd a phwy yw eu cwsmeriaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​