Pentire Margarita

English | Cymraeg

Ein barn ar Pentire Margarita - margarita gyda chic mewn can.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0%

Calorïau ymhob 100ml: 24

Tipyn o gamp yw efelychu Margarita clasurol. Ond trwy gymysgu perlysiau’r arfordir gyda leim, agafe, halen môr Cernyw, a tsilis Mecsico, mae Pentire wedi creu diod amgen sy’n rhoi i chi’r blasau i gyd heb y cur pen.

Fel y Coastal Spritz gan yr un cwmni, mae Pentire Margarita wedi’i gymysgu’n barod i’w yfed.

Roedd ein panel profi wrth eu bodd efo’r awch, y sbeis a dyfnder y blas. Cawson nhw fe gyda rhew a sleisen o leim. Os ydych chi’n anturus, ychwanegwch sleisen o tsili hefyd.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​