Nozeco Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Nozeco Spritz.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 47

Mae Nozeco wedi creu cryn amrywiaeth o winoedd di-alcohol ar hyd y blynyddoedd. Hyd y gwyddom ni, y spritz yma – gawson ni ar werth ers 2025 – yw eu coctel cyntaf, ac roedden ni’n falch o’i gael!

Mae ganddo liw oren dwfn, bron yn goch. Mae digon o fywyd iddo wrth ei dywallt ac mae ei fywiogrwydd yn para’n hir yn y gwydryn.

At ei gilydd, mae ganddo bopeth byddech chi’n chwilio amdano mewn aperitivo spritz Eidalaidd, gyda blas perlysiau cryf a chwerwder nodedig sy’n ei wneud yn wahanol i nifer o’r diodydd gorfelys sydd i’w cael wrth ei ochr ar silffoedd y coctels.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​