Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 31
English | Cymraeg
Addas i bawb sy’n chwilio am goctel di-alcohol adfywiol, braf
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 31
O wneud surop blodau’r ysgaw ar fwrdd cegin y teulu, mwy na deugain mlynedd yn ôl, mae Belvoir Farm wedi dod yn enw adnabyddus trwy’r byd, gan greu suropau, diodydd pefriog, a choctels dirwestol, ar eu fferm ysgaw organig o drigain erw yn sir Gaerlŷr.
O’r llymaid cyntaf, daw llond ceg o fwrlwm swigod, ac wedyn blas cynnil yr eirin gwlanog. Mae cydbwysedd y melystra’n berffaith – digon ond heb fod yn ormod.
Dyma ddiod i’w hyfed mewn steil mewn gwydryn coctel gyda rhew a pherlysiau a ffrwythau; neu ei mwynhau’n syml heb ddim byd ychwanegol. Chi sydd biau’r dewis. Wedi’i chreu o sudd grawnwin ac eirin gwlanog, mae Belvoir Farm Peach Bellini yn ddiod at bob achlysur – addas i bawb sy’n chwilio am goctel di-alcohol adfywiol, braf.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.