Big Drop Poolside

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop

Sgôr:

5/5

Dim mwy na 0.5%

Calorïau ymhob can: 92

Wedi’ sefydlu yn 2016, mae Big Drop yn un o’r bragdai di-alcohol mwyaf llwyddiannus ac maen nhw wedi ennill llond trol o wobrau am eu cwrw!

Cwrw gwelw gyda dogn dwbl o hopys yw Poolside. Yn ôl y disgwyl, felly, blas yr hopys sydd goruchaf. Ond does ganddo ddim o’r chwerwder llethol gewch chi mewn rhai cyrfau o’r fath. Mae’n fywiog, gydag aroglau sitrws a phinafal sydd i’w cael hefyd yn y blas, sydd yn llawn ffrwythau trofannol. Mae’n anodd gweld bai ar y ddiod yma!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​