Blue WKD

English | Cymraeg

Ein barn ar Blue WKD

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 17

Byth oddi ar yr 1990au, mae alcopops wedi ennyn teimladau cryfion – a sawl un wedi pryderu bod diodydd o’r fath yn cynnig ffordd rhy rwydd i oryfed. Wel, bellach mae gyda ni alcopop heb yr alcohol. Be’ wnawn ni o hynny? Mae wedi achosi cryn drafod, yn sicr. Roedd un fam feichiog yn canu ei chlodydd ar TikTok, gan bryfocio cryn farnu arni hi.

Yma yn Alcohol Change UK, yr unig beth rydyn ni’n ei farnu yw safon diodydd. Felly, beth yw safon y ddiod yma? Mae’n eitha da, a dweud y gwir. Mae hi’n felys ond mae rhyw surni dymunol hefyd – awgrym o lemwn, o bosib. Mae’n llai melys, efallai, na’r fersiwn alcoholaidd o’r ddiod, ond mae’n agos iawn at y blas gwreiddiol. Os ydych chi’n dwli ar Blue WKD ac yn ceisio cymedroli, efallai mai dyma’r ddiod i ti.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​