Bolle Oro

English | Cymraeg

Diod fywiog iawn a chanddi arogl Champagne da

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 12

Cwrw sydd wedi cael y lle blaenllaw yn y farchnad ddiodydd di-alcohol, gyda gwinoedd prin-eu-halcohol dipyn bach ar ei hôl hi. Y gwir plaen yw fod gwin heb alcohol yn andros o anodd ei wneud yn dda.

Rhai pefriog, yn aml, yw’r gwinoedd 0.5% gorau – fel y Bolle Oro yma. (“Bolle” yw’r gair Eidaleg am swigod; ac aur yw “oro”, sy’n ddisgrifiad da o liw’r ddiod).

Mae hi’n ddiod fywiog iawn ac mae ganddi arogl Champagne da. Mae rhyw awgrym o furum yn y blas, a thipyn o frathiad sy’n cydbwyso’r melystra. Mae hi ar ei gorau wedi’i hoeri’n dda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​