Botivo

English | Cymraeg

Diod berlysiau gyda wermod, rhosmari, mêl a chroen oren

Sgôr:

4/5

ABV: 0%

Calorïau fesul 100ml: 24

Mae Bovito wedi’i chreu ar Fferm Lannock yn sir Hertford o gynhwysion cwbl naturiol, gan gynnwys wermod, rhosmari, mêl, a chroen oren. Mae’n cael ei disgrifio fel “aperitivo perlysieuol o Brydan”, ac mae hi ar werth yn Waitrose, Sainsbury’s a llawer siop eraill, neu gallwch chi ei phrynu’n syth o’r fferm.

Gan gydnabod bod rhai diodydd di-alcohol yn teimlo braidd yn denau, mae creawdwyr Bovito yn anelu am rywbeth gyda mwy o ddyfnder o dipyn.

Fyddwch chi'n ei hoffi? Anodd dweud. Mae ganddi hi flas mor unigryw fel rydych chi’n sicr o’i hoffi’n fawr iawn neu ddim o gwbl. Diod ddiddorol iawn sydd gennym ni yma, gyda blasau chwerw aperitivo Eidalaidd, ynghyd â mêl, a finegr seidr. Bydd rhaid i chi roi cynnig arni hi eich hun er mwyn gweld ydy’r fath gymysgedd at eich dant chi!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​