BrewDog SAD AF

English | Cymraeg

Ein Barn Ar BrewDog SAD AF

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 46 (14 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Cafodd y cwrw di-alcohol yma ei lansio ar 17 Ionawr 2022 – yn ôl y sôn, diwrnod mwyaf digalon pob blwyddyn: Llun y Felan – ac mae 100% o’r elw yn mynd at ymchwil i iechyd meddwl. Mae SAD AF i fod yn rhan o ymgyrch ehangach yn annog dynion i siarad gyda’u teuluoedd a’u cyfeillion am eu hiselder a’u pryderon. Mae’r enw yn gyfeiriad at Seasonal Affective Disorder (SAD): math o iselder sy’n taro rhai pobl yn arbennig o galed yn y gaeaf. Roedd rhywfaint o anghydfod adeg y lansiad, gyda rhai’n gofyn ai bragwyr oedd y bobl orau i arwain ymgyrch iechyd meddwl; a rhai eraill yn gweld enw’r ddiod yn sarhaus braidd.

A rhoi’r dadleuon o’r neilltu am y tro, mae’r cwrw ei hunan yn siŵr o gynnal enw da BrewDog am ddyfeisgarwch: cwrw gwelw gyda malws melys yw e. Mae’n ddiod fywiog iawn gyda lliw gwyn cymylog sy’n ennyn eich chwilfrydedd yn syth. Mae’r blas yn debyg i arogl siop losin hen-ffasiwn ond heb felystra gormodol. Mae hi’n ddiod werth rhoi cynnig arni, yn sicr. Does dim byd tebyg iddo yn y categori 0.5%!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​