Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)
Butcome Goram IPA Zero
English | Cymraeg
Ein barn ar Butcome Goram IPA Zero
Sgôr:
5/5
Cafodd Bragdy Butcome ei sefydlu yn 1978 ac maen nhw hen ennill eu plwyf yn ne-orllewin Lloegr, yn ogystal â gwerthu eu cwrw mewn siopau ar hyd y wlad. Hyd y gwyddom ni, Goram IPA Zero yw eu cynnig cyntaf ar greu cwrw di-alcohol.
Dechreuwn ni drwy egluro’r enw. Yn ôl y chwedloniaeth, roedd Goram yn un o bâr o gewri lleol a aeth ati i wagio llyn trwy palu ffos anferth i ollwng y dŵr. Dechreuodd Goram ddiota wrth ei waith, gan gwympo i gysgu a gadael ei frawd Ghyston i gau pen y mwdwl. Gan fod Gorma IPA Zero yn llai 0.5% alcohol, nid yw’n debygol o beri’r un cysgadrwydd i chi.
Mae’r cwrw wedi’i becynnu’n hardd, gyda label wyrddlas yn dangos Goram yn gwgu o dan ddarlun hyfryd o Bont Grog Clifton. (Dyna fragwyr yn ymfalchïo yn eu bro!). Mae’n gwrw bywiog heb fod yn rhy fyrlymus, gyda lliw euraidd da. Fel pob cwrw gwelw da, mae’n llawn hopys, ond heb fod yn rhy chwerw. At ei gilydd, penigamp!
Mae’r bragwyr yn awgrymu ei yfed gyda chawsiau aeddfed a phiclau cryf, sy’n swnio’n syniad arbennig o dda!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.