Caleño Passion Fruit Martini

English | Cymraeg

Ein barn ar Caleño Passion Fruit Martini

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob can: 105

Tasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn methu cael diod ddi-alcohol dda mewn tafarn neu fwyty, basen ni’n debygol o rwgnach yn dawel a derbyn beth bynnag sydd ar gael. Pan oedd Ellie Webb yn y fath sefyllfa, fe sefydlodd hi gwmni diodydd newydd.

Wedi’i hysbrydoli gan flasau a lliwiau Colombia, lansiodd Ellie ddiodydd Caleño yn 2018. Yn gyntaf oll, roedd dwy wirod mewn poteli – Caleño Light and Zesty a Dark and Spicy – ac yn 2023 cyrhaeddodd dau goctel parod mewn caniau: y Passion Fruit Martini yma, a Piña Colada.

Wedi’i phecynnu’n dda mewn can glas a phin cofiadwy, dyma ddiod ffrwythus gyda chymysgedd o sbeisiau. Mae hi’n llawn blasau diddorol, ond, a dweud y gwir, dyw hi ddim yn debyg iawn i passion fruit martini. Fel pob tro, bydd rhaid i chi ei phrofi drosoch chi’ch hun a phenderfynu.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​