Cryfder: 0.5%
Call of the Void
English | Cymraeg
Ein barn ar Call of the Void, cwrw du prin-ei-alcohol gan Siren Craft Brew.
Sgôr:
4/5
Bragdy cymharol newydd yw Siren Craft Brew, a dwedan nhw eu bod nhw’n credu bod “cwrw sydd at ddant pawb”. Diolch byth, mae hynny’n cynnwys y rhai ohonon ni sy’n trio yfed llai o alcohol ond dymuno yfed rhywbeth sy’n addas i oedolion.
Mae Call of the Void yn cael ei ddisgrifio fel cwrw “nitro” 0.5%. Ystyr “nitro” yw fod mwy o nitrogen a llai o garbon deuocsid ynddo fe nag sydd mewn cwrw du traddodiadol, sydd i fod i roi llai o swigod a theimlad mwy hufennog. I greu’r ddiod yma, mae Siren wedi cydweithio gyda Mash Gang, cwmni arall sy’n gwneud cyrfau crefftus di-alcohol a phrin-eu-halcohol.
Felly, ai dyma’r bartneriaeth berffaith? Wrth ei dywallt, mae’r argoelion yn dda – lliw du dwfn a digon o ewyn. Ac yn unol ag addewid y bragwyr, mae llyfnder a dyfnder blas sydd wedi ein plesio’n fawr.
Mae Siren yn dweud ar y can eu bod nhw “wedi taflu popeth i gyd” i mewn i’r ddiod yma. Hawdd ei gredu! Mae ffa tonka sbeisiog, naddion coco, coffi, a fanila i gyd yma, yn ogystal â gwreiddiau licris sy’n rhoi i’r cwrw ei liw dwys.
At ei gilydd, roedd ein panel profi wrth eu bodd. Mae’r llun o’r sarff ar y can yn eithaf cŵl hefyd!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.