Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 11
Sgôr: 3 o 5
Cerocero
English | Cymraeg
Ein barn ar Cerocero.
Sgôr:
3/5
Pan welsom ni fod Gŵyl Jin yr Alban yn Lidl yn cynnwys y wirod 0% hon, roeddem ni’n gwybod bod rhywbeth mawr wedi newid yn y farchnad ddiodydd.
Crëwyd Cerocero gan Spirits of Virtue yn Aber Clud, ac er bod ei diwyg yn awgrymu diod aruchel, go isel yw ei phris: cwta £9.99, sef llai na hanner cost rhai o’r diodydd eraill yn yr un categori.
Yn ôl broliant y gwneuthurwyr, mae ganddi “graidd o feryw”, ond yn ein barn ni doedd hi ddim yn agos iawn at jin traddodiadol. Roedd ein panel profi yn canfod mwy o bîn, sitrws a mafon Logan. Yn hyn o beth, mae’n eithaf tebyg i sawl math newydd o jin, sydd yn aml yn llawn blasau ffrwythus annisgwyl.
Mae Lidl yn awgrymu ei gymysgu â’u tonic Canoldirol, sydd i’w weld yn gweithio’n eithaf da. Os ydych chithau’n un o’r miloedd o yfwyr sydd wedi gyrru’r chwyldro jin yn ei flaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, efallai dylech chi roi cynnig ar hwn.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.