Chance Clean Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Chance Clean Cider.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 38

Chance yw cwmni seidr cyntaf Prydain sy’n canolbwyntio’n gyfan-gwbl ar greu seidr di-alcohol, ac maen nhw eisoes yn denu sylw, gan ennill Medal Arian yng Ngwobrau Di-Alcohol y Byd.

Rhoddon ni banel profi o dri ar waith i drio’r ddiod yma – dau o’n staff ac un o’n Lleisiau Lleol penigamp. Roedd pawb ei hoffi, er bod rhywfaint o wahaniaeth barn. Roedd pawb yn gweld Chance yn seidr adfywiol a glân gyda digon o flas afalau. Tra oedd ein staff yn credu bod Chance yn “gam ymlaen o seidrau di-alcohol eraill” ac yn “berffaith i fwynhau potelaid neu ddwy ohono fe yn yr haul”, roedd ein Llais Lleol yn credu ei fod e ychydig yn brin o gymhlethdod chic seidr traddodiadol.

Roedd pawb yn gytûn fod Chance yn seidr di-alcohol hawdd-ei-yfed: i’r dim ar gyfer ei lymeitian tu allan gyda chyfeillion ar ddiwrnod o haf.

Wedi’i greu o afalau o Brydain, mae’n addas i feganiaid ac yn rhydd rhag pob glwten. Mae e ar gyfer yr enydau rydych chi am eu gwerthfawrogi i’r eithaf. Rhowch gynnig ar seidr adfywiol newydd hwn!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​