Château ISH

English | Cymraeg

Ein barn ar Château ISH

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 19

Dyma farn ein hawdur gwadd Lea o Glow Sober

Sefydlwyd ISH Spirits yn Nenmarc yn 2018, gan arbenigo yn bennaf ar goctels a gwirodydd di-alcohol. Rhaid croesawu eu menter i’r farchnad winoedd dirwestol.

Dyma ddiod fach hyfryd iawn. Mae sŵn bendigedig wrth ei dywallt, gyda digon o fwrlwm a swigod. Dyma’r gwin pefriog di-alcohol sychaf flasais i erioed, o bell ffordd. Mae’n dechrau’n eithaf melys, nid mewn modd trioglyd – mwy ffrwythaidd, afalaidd. Wedyn, wrth iddo daro taflod y geg, mae’n symud o felys i sych. Mae’n gorffen ar nodyn awchus, gydag adflas yr afalau ar y dechrau.

At ei gilydd, dyma win gwyn pefriog arbennig iawn. Dwi’n methu gweld bai arno, ond efallai na fydd y brathiad ar y diwedd at ddant pawb.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​