Co-op Cabernet Tempranillo

English | Cymraeg

Ein barn ar Co-op Cabernet Tempranillo.

Sgôr:

5/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 61

Cawson ni’r gwin coch dymunol yma yn y Co-op yn 2023. Mae wedi’i wneud o rawnwin Sbaen i’r cryfder arferol ar gyfer gwin, ac wedyn wedi cael ei ddad-alcoholeiddio. Mae gwin coch di-alcohol yn ddiarhebol o anodd ei wneud yn dda, ond mae hwn yn un o’r goreuon. Mae ganddo liw coch dwfn a blas mwyar duon braf. Dyw e ddim yn rhy felys ond does ganddo chwaith ddim o’r adflas chwerw sy’n difetha rhai gwinoedd yn y categori yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​