M&S Red Mulled Wine

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Red Mulled Wine.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 48

Dyma adolygiad gan awdur gwadd Robin Plowman, ein Rheolwr Digwyddiadau Cymunedol a Heriau

Gyda diwyg twt a manylion coch ac arian trawiadol, fyddech chi ddim yn dyfalu bod y gwin twyn yma gan M&S bron yn ddi-alcohol, oni bai am y nodyn glas a gwyn ar ben y label. Mae’n cadw cymeriad eu casgliad gwinoedd twym wrth lenwi blwch yn y farchnad am ddiod o’r fath gyda llai o alcohol.

Mae’r lliw coeth a thywyll a’r arogl sbeisiog yn ddeniadol, ac mae’r blas yn fras a llyfn, gan ddwyn i gof atgofion am fwynhau gwin twyn wrth bentwr o dân yn ystod tymor y Nadolig. Mae’n flas rhyfeddol, ac yn debyg i ddiwyg y botel, mae’n cadw holl nodweddion gwin twym, ond heb yr alcohol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​