Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 38
Heb os nac oni bai, hwn yw’r gorau o’r gwinoedd coch di-alcohol. A dweud y gwir, rydyn ni wedi cael cryn nifer o gochion alcoholaidd na ddôn nhw’n agos at safon hwn. Mae wir yn blasu fel Cabernet Sauvignon, ac mae ganddo liw dwfn sy’n pwysleisio’r blwch rhyngddo fe ac ambell gwin coch di-alcohol arall.
Cafodd y gwin hwn ei greu gyda chryfder alcoholaidd arferol ac wedyn tynnwyd yr alcohol allan. Mae hynny yn aml yn ddigon i ddinistrio’r blas, ond ddim yn yr achos yma. Beth bynnag maen nhw’n ei wneud i gael gwared ar yr alcohol heb ddileu pob pleser, mae Rawson’s Retreat yn ei wneud e’n dda.
Ac fel gwinoedd eraill Rawson’s Retreat, mae diwyg y botel, gyda llun o’r winllan, yn rhoi iddo olwg a gwedd gwin go-iawn.