Cryfder: 0%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 43 (17 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5
Lindeman’s Cabernet Sauvignon
English | Cymraeg
Ein barn ar Lindeman’s Cabernet Sauvignon
Sgôr:
5/5
Plannodd Henry Lindeman ei winllan gyntaf yn Nyffryn Hunter yn 1834, rhan o’r byd sydd erbyn hyn yn un o brif ardaloedd gwinllannol Awstralia. Y dyddiau hyn, mae Lindeman yn un o brif gynhyrchwyr gwin eu gwlad ac mae eu gwinoedd yn arbennig o boblogaidd ym Mhrydain hefyd.
Mae gwin coch llai alcoholaidd yn anodd ei wneud yn dda, ond mae hwn yn un da iawn. Mae ganddo liw coch dwfn fel Cabernet Sauvignon da – lliw sydd i’w weld hefyd yn arlliwiau hydrefol hyfryd y label – gwynt cryf Cabernet Sauvignon, ac mae’n blasu fel gwin. Yn y bôn, dyma’r gorau o’r cochion gawson ni hyd yn hyn.
Wrth gwrs, fydd gwin 0.5% byth yn blasu fel Châteauneuf-du-Pape 14%. Mae’n debyg na fydd y gwin yma yn ennill ei blwyf ymhlith y gwir wybodusion, ond os ydych chi’n chwilio am win coch dibynadwy i gyd-fynd â stecen neu bicnic, mae hwn yn berffaith.
Mae ar werth yn Asda a Morrisons.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.