Collider Lager

English | Cymraeg

Cwrw melyn chwerw a ffres.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 11

Man cychwyn Collider oedd penderfyniad sefydlydd y cwmni, Harry, i beidio ag yfed alcohol. Er ei fod e am gefnu ar y ddiod gadarn, doedd e ddim eisiau colli defod a phleser ymlacio gyda diod ar ddiwedd y dydd. Erbyn hyn, mae un can o Collider yn cael ei werthu bob 30 eiliad, ac felly mae llawer iawn o bobl yn bachu’r cyfle mae Harry wedi ei greu i ymlacio heb alcohol.

Mae’r cwrw melyn yma yn un o driawd o gyrfau gan Collider – ynghyd â chwrw eirin gwlanog a chwrw gwelw. Mae’n ddiod ffres, a mymryn mwy chwerw na chwrw melyn arferol. Yn ein barn ni, mae e damaid yn fwy tenau na chyrfau eraill Collider, ond, at ei gilydd, does dim byd i gwyno amdano yma.

Fel y ddau gwrw arall, mae hwn wedi’i wneud ag ychydig o gynhwysion ychwanegol – gan gynnwys ffwng Pigau Barfog – sydd yn helpu’r corff i ymdrin â straen a blinder, ym marn rhai.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​