n.o.w.t

English | Cymraeg

Bywiog ac ysgafn, gyda holl nodweddion cwrw melyn o safon.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Mae llawer o gyrfau di-alcohol ar gael y dyddiau hyn. Mae hynny’n beth da, ond mae’n anodd weithiau i ddiod ddod i’r blaen pan mae’r silffoedd dan eu sang. Mae’r cwrw yma yn un eithriadol o dda. Mae’n fywiog ac ysgafn, gyda holl nodweddion cwrw melyn o safon, er bod yma lawer o hopys, ac mae’n bosibl, felly, bydd e’n apelio mwy i garedigion cwrw gwelw.

Mae e wedi’i wneud â phump math o frag, ynghyd â reis, yr hopys, a mymryn o tsili. Mae’n addas i feganiaid a heb ddim glwten, a chafodd ei fragu ag ynni gwyrdd i gyd! Mae e wedi’i becynnu’n dda mewn can gyda graffeg gynnil iawn, ar wahân i lun bach o lwynog annwyl mewn un gornel.

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union ble mae’r cwrw yn cael ei fragu. Ond gyda’r fath enw – n.o.w.t – rydyn ni’n tybio bod rhyw gysylltiad â sir Efrog.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​