Corona Cero

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Corona Cero

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 56 (17 ymhob 100ml)

Cwrw Mecsicanaidd sy’n fawr ei fri yn yr Unol Daleithiau yw Corona, er bod y Corona Cero yma’n cael ei fragu yng Ngwlad Belg. Mae ganddo bryd a gwedd Corona Extra, gyda’r goron, y creaduriaid adeiniog, a’r llythrennau gothig. Mae, yn sicr, yn osgoi’r diwyg diflas sy’n gwneud cymaint o gyrfau di-alcohol yn anneniadol o ddifflach yr olwg.

Mae llawer o’r bragwyr mawrion yn cynnig lager di-alcohol erbyn hyn, a pheth anodd yw ennill troedle yn y farchnad, ond mae’r ddiod yma’n llawn haeddu un. Dyma gwrw euraidd ysgafn, heb fod yn rhy felys nac yn rhy chwerw – perffaith ar gyfer prynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog. Mae e ychydig yn drymach nag ambell cwrw melyn, o bosib, ond mae’n anodd peidio â’i hoffi. Os ydych chi am ychwanegu at y profiad, cewch chi stwffio sleisen o leim i wddf y botel, fel mae ein cyfeillion ochr draw i Fôr Iwerydd yn hoffi gwneud.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​