Counter Culture Try Dry® Citrus Yuzu Organic Kombucha Soda

English | Cymraeg


Diod dda gallwch chi deimlo’n dda amdani hefyd

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 5

Yn symffoni doreithiog o flasau, mae’r kombucha yma yn taro’r nodau iawn i gyd! Mae awch sitrws yr yuzu yn cael ei gydbwyso gan felystra cynnil, gan greu diod ysgafn ac adfywiol. Dyma kombucha da i bobl sydd ddim yn arbennig o hoff o kombucha, gan nad oes ganddi’r ansawdd finegraidd gewch chi weithiau mewn diodydd o’r fath.

Yn ogystal â gwneud diodydd blasus mewn caniau cŵl sy’n dangos gwaith yr arlunydd o Fryste, Marta Zubieta, mae Counter Culture wedi’i ardystio yn B Corp ac mae 5% o’r elw o’r ddiod yma yn mynd at Alcohol Change UK. Dyma ddiod dda gallwch chi deimlo’n dda amdani. Codwn ni lwncdestun i hynny!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​