You + I Kombucha

English | Cymraeg

Detholiad o ddiodydd naturiol rhagorol gyda blasau amrywiol

Sgôr:

5/5

Cryfder: Efallai bydd kombucha yn cynnwys mymryn o alcohol

Calorïau ymhob 100ml: 11

Fel llawer diod dda, mae hanes da tu ôl i You + I. Cawson nhw eu creu yn gyntaf oll ar fwrdd cegin Alan a Kelsey yn eu fflat yn Glasgow. Erbyn hyn, maen nhw’n cael eu bragu o dan bont rheilffordd yn yr un ddinas.

O’r cychwyn cyntaf, roedd pwyslais ar ansawdd ac ar gynhwysion iachus, ac mae’r diodydd i gyd yn organig. Erbyn 2026, roedden nhw ar werth mewn mwy na 500 o siopau, gan gynnwys Harrods a Selfridges. Cewch chi hefyd brynu'r diodydd yn syth gan You + I.

Mae pump math. Mae pob un yn fywiog a blasus, ac yn dod mewn potel wydr frown drwsiadus gyda graffeg syml yn dangos cynhwysion y ddiod:

  • Gwreiddiol: Mae hwn wedi’i greu gyda the de a siwgr tywyll. Ond, i ni, roedd cryn dipyn o flas afalau. Felly, os ydych chi’n hoff o seidr sych, efallai bydd hwn at eich dant
  • Ceirios Duon: Yn ôl y disgwyl, mae hwn fymryn yn fwy melys na’r lleill, ond mae’n ddiod gytbwys iawn. Efallai bydd hi at eich dant os ydych chi am gael kombucha gyda llai o frathiad
  • Sinsir: Mae yma flas sinsir naturiol o’r llymaid cyntaf. Gallai fe weithio’n dda mewn coctels lle byddech chi fel arfer yn defnyddio cwrw sinsir – ac mae rysáit am hynny ar wefan You + I
  • Lemon a Lafant: Dyma’r un o’r pump sydd fwyaf tebyg o rannu barn. Mae’n finiog a blodeuog, sy’n gyfuniad diddorol. Byddwch chi naill ai’n dwli arno neu’n ei ffieiddio, o bosib!
  • Leim a Halen Môr: Os ydych chi’n hoff o fwyd a diod Mecsicanaidd, byddwch chi’n gwybod bod halen a leim yn cyd-fynd yn dda. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth di-alcohol i gymryd lle margherita ar eich rhestr ddiodydd, efallai mai dyma’r ddiod i chi.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​