Crafty Nectar 0.5

English | Cymraeg

Ein barn ar Crafty Nectar 0.5

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 76 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Peth mawr ym myd cwrw crefftus yw “collabs”. Seidr crefftus a grëwyd ar y cyd gan Crafty Nectar yn Llundain a Wise Bartender yng Ngwlad yr Haf yw hwn. Creu “uncorn” oedd eu hamcan, sef “seidr chwedlonol prin-ei-alcohol gyda holl flas seidr arferol”.

Nid chwedl mohoni mwyach! Seidr traddodiadol gwirioneddol dda yw hwn, heb ddim ond y diferyn lleiaf o alcohol. Ar y botel mae’n cael ei ddisgrifio fel diod ganolig o felys. Yn ein barn ni, mae e dipyn bach yn sychach na hynny. Prun bynnag, mae’n cymharu’n ffafriol iawn â Stowford Press a Sheppy’s. Os ydych chi’n hoff o seidr, neu hyd yn oed os nad ydych chi ddim, mae’n werth rhoi cynnig arno, yn sicr.

Gallwch chi brynu Crafty Nectar 0.5 gan y naill neu’r llall o’i greawdwyr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​