Crossip Dandy Smoke

English | Cymraeg

Ein barn ar Crossip Dandy Smoke.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 68
Sgôr: 4 o 5

I sylfaenydd cwmni Crossip, Carl Brown, “ffordd o fyw, nid chwiw dros dro” yw peidio ag yfed alcohol. Dyna pam treuliodd e bum mlynedd yn creu triawd hynod o wirodydd di-alcohol.

Fel mae ei henw yn awgrymu, diod debyg i wisgi Dandy Smoke. Ac fel wisgi, gallwch chi ei hyfed ar ei phen ei hun neu fel coctel – sbïwch ar syniadau Crossip ar gyfer cymysgu Dandy Smoke yma. Buodd ein panel profi yn ei blasu heb ddim ychwanegiadau a hefyd yn gymysg gyda chwrw sinsir. Ar ei phen ei hunan mae ganddi flas myglyd, tanllyd, tebyg i wisgi mawn. Roedd rhai o’n panel profi yn canfod mymryn o ffrwyth; roedd eraill yn blasu clofs a nytmeg. Mae ei chymysgu hi gyda chwrw sinsir yn gwneud y gorau o’i nodau tanllyd, gan ogleisio’r tafod. Yn ein barn ni, mae Dandy and Ginger yn ddewis delfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am rhywbeth ysgafnach i’w gael yn lle wisgi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​