DC Sparkling Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar DC Sparkling Rosé

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob: wrthi’n aros gwybodaeth

Golwg siampên pinc sydd i’r gwin yma o Darling Cellars yn Ne Affrica. Mae’r ddiod ei hunan yn rhosliw gwelw a daw mewn potel brydferth yn arddull y Belle Epoque gyda phatrwm o flodau a capan ffoil o liw aur coch. Mae’r corcyn yn dod allan gyda sŵn boddhaol ac mae arogl da i’r gwin – mwy deniadol nag ambell rosé di-alcohol rhatach. Diod ddymunol ei llymeitian yw hi, gyda blas mefus ac eirin melys.

Dwi wrth fy modd efo’r graddfeydd lliw a chelf grand y label. Mae’r rhoi argraff i’r yfwr ei fod yn dathlu go-iawn wrth agor potelaid o’r gwin yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​