Dead Man’s Fingers

English | Cymraeg

Ein barn ar Dead Man's Fingers

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 14

Crëwyd diodydd Dead Man’s Fingers yn wreiddiol mewn tafarn bwyd-y-môr yng Nghernyw. Gan geisio “dianc rhag hualau traddodiad”, dewisodd eu gwneuthurwyr gynhwysion anarferol fel bara saffrwm Cernyw, hufen iâ Pedro Ximénez, nytmeg, fanila, ac orenau. Wrth iddyn nhw greu mwy o ddiodydd, ychwanegon nhw flasau fel ceirios, mango, banana and chnau coco. Felly, roedden ni’n disgwyl rhywbeth annisgwyl pan lansion nhw’r wirod ddi-alcohol yma yn 2022.

Fel pob un o ddiodydd Dead Man’s Finger’s, mae hon yn dod mewn potel foddhaol o soled a thrwm, gyda phenglog gwenog, gan addo rhywbeth go gyffrous. Mae’r realiti’n dipyn o siom. Mae ganddo liw rym tywyll da, ond ar wahân i’r adflas sbeisiog, diod eithaf niwtral ei blas yw hi. Wedi’i chymysgu gyda chola neu gwrw sinsir, mae’n mynd ar goll braidd.

Fel pob tro, bydd rhaid i chi roi cynnig arni a’i barnu drosoch eich hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​