Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 17
English | Cymraeg
Mae lliw coch dwfn i’r gwin ei hun, ac mae’r blas yn ysgafn, ffrwythus, a miniog braf.
Sgôr:
4/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 17
Mae’r gwin coch Ffrengig yma o Marks & Spencer yn un o’r ychydig iawn o winoedd di-alcohol llonydd gewch chi gyda chorcyn go-iawn, sy’n ei wneud fymryn yn fwy arbennig. Mae diwyg da i’r botel hefyd, a hithau’n foddhaol o soled a thrwm.
Mae lliw coch dwfn i’r gwin ei hun, ac mae’r blas yn ysgafn, ffrwythus, a miniog braf. Os yw’n well gennych chi win coch sych, efallai bydd hwn yn ddewis da i chi. Ym marn ein panel profi, byddai’n cyd-fynd yn dda efo bwyd sawrus neu sbeisiog.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.