Equinox Peach and Turmeric Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Peach and Turmeric Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 38 (15 per 100ml)

Mae kombucha Equinox gydag eirin gwlanog a thyrmerig yn oren gwelw ei lliw, ac mae digon o fywyd ynddi wrth ei thywallt. Mae arogl eirin gwlanog, yn sicr, ond mae rhywbeth mwy soffistigedig yn dod o’r tyrmerig, hibisgws a kombucha, gan godi’r blas i lefel uwch na soda arferol.

Wrth ei llymeitian, mae’r tyrmerig yn dod drwodd yn gryf iawn ond yn cael ei gymedroli gan yr eirian gwlanog. Mae hi’n ddiod figanaidd, ac o gofio effeithiau llesol honedig tyrmerig efallai bydd hi’n codi’ch hwyliau. Roedd ein panel profi wrth eu bodd. Campus!

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​