Estrella Galicia 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Estrella Galicia 0.0.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 21

Mae’r cwrw yma yn ffefryn mawr yn Sbaen er blynyddoedd lawer, ac mae’n bosibl fod rhai o’n darllenwyr wedi ei flasu ar wyliau yn y wlad yna. Felly, roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni ei brofi.

Mae’n ddiod adfywiol braf, yn sicr. Mae’n eithaf tywyll am lager ac mae digon o ewyn sy’n para’n hir. Mae’r blas yn ddymunol ond difflach. Cwrw da ar gyfer diwrnod poeth, efallai.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​