Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears
Mae Sainte Etienne yn un o’r nwyddau yna gan Aldi sy’n debyg iawn yr olwg i frand rhywun arall, ond yn ddigon gwahanol i beidio â thramgwyddo deddfau hawlfraint. Efallai byddwch chi’n cofio iddyn nhw ennill eu cwrw Brewdog ei hun wedi iddyn nhw greu cwrw tebyg yr olwg i rai Brewdog.
Dwi ddim yn hollol sicr pa gwrw mae Sainte Etienne yn ei ddynwared, ond mae ei flas yn gyfarwydd iawn. Gofiwch chi’r cyrfau o Ffrainc neu Wlad Belg roeddech chi’n ei gael erstalwm – y rhai roedd rhaid i chi groesi’r Sianel i’w nôl? Dechreuodd siopau mawr y wlad yma eu stocio wedyn, nes i’r ffasiwn newid. Wel, maen nhw yma eto, wedi’u hail-greu’n berffaith, ond heb yr alcohol.
Ai dyma’r cwrw i chi? Os ydych chi’n hoff o gyrfau Cyfandirol ysgafn sy’n syml a hawdd eu hyfed, dyma’r ddiod i chi. Mae’n ddiod ddiddrwg. Does neb yn ceisio cychwyn chwyldro bragu yma. Mae’n anelu at fod yn gwrw canol-y-ffordd, ac yn llwyddo’n rhagorol.