Cryfder: 0%
Calorïau: 26 ymhob 50ml
Sgôr: 2 o 5
Everleaf
English | Cymraeg
Ein barn ar Everleaf
Sgôr:
2/5
Roedd un adeg pan oedd “gwirodydd di-alcohol” yn meddwl un peth: rhywbeth tebyg i jin. Nid felly mwyach. Mae Everleaf yn un o nifer o ddiodydd newydd sy’n gwbl wahanol i jin a phob dim arall, alcoholaidd neu beidio.
Mae ei chreawdwr, Paul Mathew, yn hanu o linach hir o fotanegwyr. Mae hefyd yn berchen ar far tra ffasiynol The Hide yn ne Llundain. Cymerodd fwy na blwyddyn o chwilio am blanhigion a cheisio crynhoi eu blas iddo fe gyrraedd y ddiod orffenedig.
Mae’n dod mewn potel dal, hirfain sydd wedi’i dylunio’n grefftus i apelio at yfwyr sy’n dewis a dethol eu diodydd yn ofalus. Yn y gwydryn, mae iddi liw brown-felyn a blas sy’n anodd iawn ei ddiffinio – grawnffrwyth yw’r peth agosaf ato, efallai, ond mae yma ddigon of elfennau perlysieuol eraill yno. Mae cynhwysion hynod yn cynnwys fanila, saffron, fetifer, gellesg, llysiau’r angel, casia, a lili’r dewin o Tsieina.
Mae digon o drwch iddi ac, yn sicr, dyw hi ddim yn denau fel cymaint o ddiodydd di-alcohol eraill. Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ei chymysgu hi gyda thonic neu soda, neu ei hyfed ar ei phen ei hunan ar rew, bob tro gyda sleisen o oren.
Mae Everleaf ar gael i’w brynu yn Sainsbury’s os byddwch chi am roi cynnig ar yr antur ddirwestol hon.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.