Everleaf Forest

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Everleaf Forest

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 51
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd@GlowSober

Cafodd cwmni Everleaf ei sefydlu gan y naturiaethwr a barmon Paul Matthew. Tynnodd ar ei sgiliau a phrofiadau amrywiol i greu casgliad o ddiodydd aperitif gyda blasau naturiol at bob dant. Yn wir, mae ei ddiodydd yn debyg o blesio unrhyw ddiotwr di-alcohol sy’n gwybod ei bethau. Erbyn hyn mae gan Everleaf dair diod wahanol.

Yn ôl y broliant ar y botel saffron, fanila o Fadagascar, a blodau orenau yw prif elfennau’r ddiod yma. Ond i mi, roedd arogl cryf o licris. Mae’r blas yn chwerw-felys: mae’r fanila yn rhoi melystra neis, ac wedyn mae chwerwder sy’n para’n hir ar ôl i chi orffen y ddiod. Mae orenau a sbeis y ddiod hefyd yn gwneud i mi feddwl am y Nadolig. Mae hi’n ddiod gynnes sy’n eich gwahodd chi i mewn. Roedd hi’n gwneud i mi dwymo tu fewn a theimlo’n hapus braf. Prynwch ddŵr tonic da, bachwch sleisen o oren, ac ychydig o rew, byddwch chi’n barod i fynd!

At ei gilydd, rwy’n rhoi sgôr o 3 allan o 5 i hon. Mae hi’n ddoid gymhleth ac yn ffrwyth cryn feddwl, ond Everleaf Marine sydd biau fy nghalon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​