Fentiman’s Dandelion and Burdock

English | Cymraeg

Ein barn ar Fentiman’s Dandelion and Burdock

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 18

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Nid dyma’r math o ddiod rydyn ni’n eu hadolygu ar y wefan yma fel arfer. Ond arhoswch chi gyda fi am funud! Bydd rhai ohonoch chi – mwy na thebyg y rhai ohonoch chi sy’n cofio gorwelion Llundain heb Gromen y Mileniwm – yn gyfarwydd â D&B (neu ddannedd-y-llew a chacamwci, a rhoi iddi ei henw Cymraeg gogoneddus). Roedd hi i’w gweld mewn mwy o lefydd, a byddwch chi’n ei gweld hi o hyd ambell waith, yn llechu mewn siop gornel, ar y silff isaf, heb ei hoeri. Mae’n ddanteithbeth prin. A dyna, yn y bôn, yw’r rheswm i mi benderfynu cynnig fy marn arni, hyd yn oed os nad yw o fewn ein diffiniad arferol o ddiodydd di-alcohol.

Taswn i’n mynd i ryw achlysur cymdeithasol, a’r trefnydd, sy’n gwybod i mi gefnu ar y ddiod gadarn, yn cynnig hon i mi, faswn i’n ddiolchgar? Yn sicr. Baswn i ar ben fy nigon. Peidied neb â’m camddeall, blas anghyffredin sydd gan D&B. Gwelais fwy nag un person yn crychu ei drwyn arni. Ond os yw dannedd-y-llew a chacamwci at eich dant chi, byddwch chi wrth eich bodd. Mae’n ddistyllad o atgofion. Does dim blas tebyg iddi. Mae’n anodd ei disgrifio. Mae’n hwyliog a swnllyd. Mae’n felys a pherlysieuol, bron yn feddyginiaethol, gydag awgrym o ffenigl. Mae’n ymylu ar orfelystra ond heb groesi’r ffin yna.

Faswn i’n ei hyfed hi bob dydd? Na faswn, yn ôl pob tebyg. Mae’n rhy arbennig ar gyfer hynny. Os ydych chi’n chwilio am rhywbeth i gymryd lle digestif, gallai wneud y tro. Baswn i hefyd yn ei gweini gyda chwrs caws, yn enwedig caws glas. Llenwch wydryn gwin neu sieri, wedi’i oeri fymryn. Chwyrlïwch hi. Mwynhewch y moethusrwydd. Chi gaiff benderfynu beth sy’n cyfrif, ac i mi, mae hon yn cyfrif!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​