ZAG

English | Cymraeg

Ein barn ar ZAG

Sgôr:

3/5

ABV: 0.0%
Calorïau ymhob can: 54 (19 ymhob 330ml)
Sgôr: 3 o 5

Yn ôl y broliant, mae ZAG yn “amheuthun o wahanol i gwrw”. Gwir y gair. Os ydych chi’n chwilio am ddiod debyg i gwrw, dim dyma’r ddiod i chi. Beth yw hi, felly? Diod adfywiol go debyg i de rhewoer, wedi’i chreu gyda the gwyrdd a pherlysiau eraill. Mae’r cwmni bach sy’n ei gwneud yn dweud eu bod nhw am “ddarparu nodweddion achlysur yfed cwrw, heb geisio efelychu blas cwrw”. Yn ogystal â’r te gwyrdd, mae’n cynnwys mintys, ciwcymber, leim and lemwn.

Roedd diwyg y can yn atgoffa rhai o’n panel profi o’r clasur Americanaidd A&W Cream Soda. Mewn gwydryn, mae ganddi liw cyffelyb i sudd afal tywyll. Mae hi ychydig yn fyrlymus ond nid gormod felly. Mae’r adflas yn ddymunol o ffrwythus a mintlyd.

Efallai nad dyma ddiod byddech chi’n dewis ei hyfed trwy gydol noson, ond mae’n well o dipyn na nifer o ddiod ysgafn gorfelys traddodiadol. Gyda chwta 54 o galorïau ymhob can, mae’n debygol o apelio i’r rhai sydd am fyw’n iachach.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​