Wild Beer Grapefruit IPA Soda

English | Cymraeg

Ein bar ar Wild Beer Grapefruit IPA Soda

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.3%

Calorïau ymhob can: 69 (21 ymhob 100ml)

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Henry Forrest o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Henry ar Twitter @HoppyAF

Bragwyr fferm go-iawn yw Wild Beer, gan ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwlad yr Haf yng nghanol y bywyd naturiol sy’n eu hysbrydoli i fragu. Dwedan nhw fod eu cwrw yn “fwy cofiadwy a mwy blasus gan ein bod ni’n ei greu trwy ddefnyddio natur, gwyddoniaeth, a thipyn o hudoliaeth Gwlad yr Haf”.

Fel gwelwch chi o enw’r ddiod, nid cwrw yw hwn: soda wedi’i ysbrydoli gan gwrw yw e. Dyma sy’n digwydd pan fydd bragwyr yn mynd ati i greu diod ffrwythus gymhleth. Mae Wild Beer wedi troi’r sgiliau gawson nhw o ddeng mlynedd o fragu cwrw er mwyn bragu diod gallwch chi ei hyfed pan fyddwch chi “ddim yn yfed”.

Mae’r soda grawnffrwyth yma yn ddiod hyfryd o adfywiol. Mae’n wahanol i gwrw oherwydd dyw e ddim yn gwrw. Dwi’n siŵr bydd rhaid pobl yn ei gweld hi’n rhyfedd braidd fod bragdy fel Wild Beer yn creu diod fel hon, ond mae’n gweithio’n arbennig o dda yn dangos mor fedrus ydyn nhw fel bragwyr. Mae’r grawnffrwyth yn rhoi blasau melys ond sur. Ond dan y rheini mae chwerwder yr hopys – yno ond heb fod yn ormodol.

Dychmygwch awyr las ddi-gwmwl, yr haul yn disgleirio, a chadair gyffyrddus yn yr ardd. Bachwch gan oer o hwn a mwynhewch y prynhawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​