Cryfder: 0.3%
Calorïau ymhob potelaid: 66 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Un o’r pethau mwyaf diddorol yn y farchnad ddiodydd di-alcohol yn y blynyddoedd diwethaf yw’r syniad y gallai cwrw di-alcohol apelio at bobl sydd o ddifri am gadw’n heini – fel mae enw’r cwrw yma’n ei awgrymu. Os ydych chithau’n digwydd bod yn un o’r bobl yma, mae llwytho wybodaeth helpfawr fan hyn.
Mae’n eglur o’u deunydd marchnata fod creawdwyr Fitbeer yn anelu am y rhai sy’n trin eu cyrff fel temlau. Mae llyfryn broliant y bragdy’n llawn lluniau o bobl brydferth yn gwneud pob math o ymarfer corff ac yn cynnal barbeciws ar y traeth. Ac mae’n dod mewn un o’r poteli mwyaf ffasiynol sydd (ffont ffynciog, cyrn carw a’r gweddill i gyd).
Wedi’i lansio yn 2016 ac yn cael ei fragu ym mro hanesyddol hen ddociau Llundain, cwrw yw hwn ac iddo dipyn o stori. Mae’r bragwyr Joe a Becky Kean yn hoff iawn o gwrw, ond maen nhw hefyd wedi gweld o broblem ddiota eu tad fod “agweddau llai deniadol ar y ddiod euraidd”. Ar ôl taith ymchwil i’r Almaen (wrth gwrs) fe greon nhw Fitbeer, gan fwriadau chwalu’r chwedl fod “rhaid aberthu blas er mwyn lleihau’r alcohol”.
Wnaethon nhw lwyddo, felly? Yn sicr, mae Fitbeer yn osgoi rhai o’r problemau sydd wedi plagio cyrfau di-alcohol ar hyd y blynyddoedd – mae’n blasu fel cwrw, am un peth, a does gyda fe ddim o’r adflas cemegol sy’n nodweddu ambell gwrw o’r fath. At ei gilydd, mae’r blas yn awgrymu ei fod ar gyfer y rhai sy’n chwilio amrywbeth sydd ddim yn rhy felys, er mwyn torri syched a gwlychu’r llwnc. Yn ein barn fach ni, mae’n neis heb fod yn gofiadwy iawn – yn ddiod byddai’n rhan fwyaf o bobl yn hapus ei hyfed, ond sydd ddim yn debygol o ennyn teimladau cryfion y naill ffordd neu’r llall. Rydyn ni’n rhoi iddo fe sgôr ddigon parchus o 3.