Nunc Jun-Kombucha: Courage

English | Cymraeg

Ein barn ar Nunc Jun-Kombucha: Courage.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 61

Dyma adolygiad gwadd gan un o’n Lleisiau Lleol

Mae diodydd jun-kombucha yn cael ei gwneud â mêl yn lle siwgr, sy’n rhoi iddyn nhw flas ysgafnach o bosib.

Mae diodydd kombucha Nunc yn dod mewn caniau 330ml, gyda lliw gwahanol ar gyfer pob math. Dyma’r ddiod yn y can porffor, ac oherwydd hynny roeddwn i’n tybio ei bod wedi’i gwneud o gynhwysion porffor: llus, efallai, neu fwyar duon neu eirin. Roeddwn ni’n synnu, felly, pan ddarllenais i’r rhestr gynhwysion, sy’n cynnwys meillion coch, danadl, sinsir, licris, a the.

Doedd yr yn o’r rhain yn llethu’r lleill – roedden nhw wedi’u cymysgu’n dda ac yn gytbwys. Dyma ddiod hyfryd o adfywiol heb felystra gormodol!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​