Fre Merlot

English | Cymraeg

Ein barn ar Fre Merlot

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 70 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Ar werth yn Asda, mae’r Merlot yma yn rhan o deulu o chwe gwin 0.5% o Ddyffryn Napa, Califfornia – perfeddwlad bröydd gwin yr Unol Daleithiau.

Fel mae’r gwneuthurwyr Gwindy Sutter Home yn esbonio, mae eu gwin coch nhw yn cael ei greu yr un modd ag unrhyw win arall, hyd at y cam olaf oll pan mae’r Côn Troelli rhyfeddol yn gwneud ei waith yn tynnu’r alcohol allan heb dynnu pob blas gyda fe.

Gwin coch go dda yw’r canlyniad – un cymhleth gyda lliw da, heb fod yn rhy felys, a chyda rhyw awgrym o fwyar duon. Mae diwyg y botel yn dda hefyd, gyda label sy’n gwneud iddo edrych fel gwin o safon. Fel pob gwin coch di-alcohol, byddwch chi’n gwybod o’r llymaid gyntaf nad yw o’r cryfder arferol, ond mae’n hawdd ei yfed yn rhydd rhag adflas afiach.

Tir phwynt allan o bump, meddwn ni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​