Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 27
English | Cymraeg
Mae’r ddiod ei hun yn sbeisiog braf ac eithaf melys.
Sgôr:
3/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 27
Pan ddechreuodd Lisa Kind gwmni Free AF Drinks yn 2020, cafodd hi’r holl gwestiynau arferol: “Beth sy’n bod arnat ti?”, “Wyt ti’n feichiog?”. Daliodd hi ati, gan anelu am greu “nid dim ond diod, ond byd lle mae’n iawn penderfynu’n hyderus drosot ti dy hun”.
Yn 2025, glaniodd triawd o goctels ganddi hi ar silffoedd Morrison’s, gan gynnwys hwn, sef cwrw sinsir a rỳm di-alcohol. Mae gan y can batrwm troellog deniadol o liwiau cynnes. Mae’r ddiod ei hun yn sbeisiog braf ac eithaf melys. Mae gwres yn yr adflas, sy’n dod o Afterglow™, cymysgedd cyfrinachol o sbeisiau o Seland Newydd!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.