Cryfder: 0%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5
O edrych ar yr amrywiaeth o winoedd di-alcohol sydd ar gael erbyn hyn, pefriog yw’r categori sydd i’w weld yn tyfu fwyaf. Ddylai hynny ddim ein synnu chwaith. Os yw diod fel arfer yn alcoholaidd, a chynhyrchwr yn ymdrechu i’w gwneud yn ddi-alcohol, mae angen rhywbeth arall – ychydig o fwrlwm, tipyn o sbeis – i lenwi’r bwlch.
O Sbaen mae’r gwin gwyn newydd yma gan Freixenet, a chyrhaeddodd y silffoedd yn y wlad yma yn 2018 wrth i Tesco ehangu’r adran ddi-alcohol ragorol sydd i’w chael yn eu siopau mwy. Mae ganddo digon o swigod, a’r rheini’n para’n ddigon hir.
Dyw’r blas ddim yn wael o gwbl. Dyw e ddim yn rhy felys ac mae ganddo’r brathiad bach sydd gan winoedd pefriog dda. Does dim byd syfrdanol yma, ond os ydych chi’n chwilio am ddiod flasus i dorri syched, rhowch gynnig arno.
Rhaid dweud bod y gwinwyr wedi gwneud cam gwag gyda’r botel a’r label. Mae ganddo olwg seidr pefriog yn smalio bod yn win arno, yn hytrach na diwyg sy’n cyhoeddi gwin o safon