Kylie Sparkling Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Kylie Sparkling Rosé

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 22

Efallai ei bod hi’n fwy adnabyddus fel actores a chantores fyd-enwog, ond ers 2020 mae Kylie Minogue yn seren yn y busnes gwinoedd. Ac ers 2022 mae ei chasgliad yn cynnwys y gwin rhosliw di-alcohol yma.

Mae rhai pobl yn ddrwgdybus braidd am enwogion mewn un maes sy’n mentro i ryw faes arall. Ond rhowch eich amheuon o’r neilltu, gan fod hwn yn win di-alcohol gwirioneddol dda.

Sudd grawnwin o’r Almaen yw sylfaen y ddiod, ynghyd â the gwyrdd o fynyddoedd de-orllewin Tsieina. Mae ganddi liw pinc dymunol heb fod yn rhy lachar. Mae’n fywiog iawn heb fod yn rhy fyrlymus. Mae heb fod yn rhy felys nac yn rhy sur.

Wrth gwrs, bydd rhaid i chi roi cynnig arni hi eich hun er mwyn gweld ydy e “i chi yn arbennig”.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​