Funkin Passionfruit Martini

English | Cymraeg

Ein barn ar Funkin Passionfruit Martini

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 47

Mae Funkin Cocktails yn cymysgu diodydd da ers 1999. Maen nhw’n adnabyddus am amrywiaeth o goctels parod mewn caniau – a phob un yn cynnwys dyfais fach glyfar sy’n saethu nitrogen drwy’r ddiod wrth i chi godi’r caead, gan greu miloedd o swigod mân.

Y Passionfruit Martini yma yw eu diod ddi-alcohol gyntaf. Mae ganddi flas da gydag eirin gwlanog a ffrwythau’r pasiwn, a theimlad melfedaidd braf. Mae hi fymryn yn felys, ond coctel melys yw hwn fel arfer. Anodd gweld dim o’i le arno.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​