Gloucester Brewery Zero Gravity

English | Cymraeg

Ein barn ar Gloucester Brewery's Zero Gravity.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 22

Wedi’i sefydlu yn 2011, mae Bragdy Caerloyw yn creu cwrw da yn eu ffatri fach ar lan y dŵr yn hen ddociau hardd y ddinas. Yn ogystal â cheisio creu blasau apelgar, maen nhw’n anelu am ddefnyddio cynhwysion naturiol, ac maen nhw wedi talu am blannu toreth o goed mewn rhannau o’r byd sy’n wynebu datgoedwigo.

Zero Gravity yw eu cwrw dirwestol cyntaf, ac mae e’n un da. Mae ganddo arogl ffrwythus, lliw cymylog, a digon o ewyn sy’n para. Mae’n chwerw iawn – ond heb fod yn rhy chwerw – ac mae hefyd fymryn o lemwn.

Mae llun neis ar y can o blaned ar ei thaith trwy’r gofod, yn debyg yr olwg i eirinen wlanog anferth!

Cawson ni Zero Gravity yn siop fferm ryfeddol Gwasanaethau Caerloyw, ond mae ar gael mewn sawl man.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​