Good Karma Sattva Kentish IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Good Karma Sattva Kentish IPA.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Argian! Ble i ddechrau?

Dyma gwrw CYMHELTH ar y naw. Mae pob cegaid fymryn yn wahanol. Nid bod hwnnw’n beth gwael: dwi ddim am ofyn i’r cwrw yma fihafio. Beth bynnag mae’n wneud, mae’n ei wneud e’n dda. Ac mae’n gwneud llawer!

Y peth cyntaf gewch chi yw’r perlysiau: pîn, basil, rhosmari, tamaid o mango, a mymryn o fêl, sy’n blodeuo yn y geg cyn lleihau gydag awgrym o gnau.

Mae’r cwrw yma’n anhygoel. Dim gwacter ar y diwedd, dim dinodedd. Tasech chi’n codi hwn, fyddai fe ddim oherwydd nad oedd dim byd gwell i’w gael. Na fyddai, wir! Dyma gwrw byddwch chi’n ei ddewis gan eich bod chi’n gwybod am gwrw ac yn chwilio am ddiod o safon.

Yr unig reswm nad ydw i’n rhoi sgôr o ddeg allan o bump i’r cwrw yma yw nad yw mathemateg yn caniatáu’r fath symiau.

Profwch y cwrw yma. Mae mor syml â hynny!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​