Gordon’s Pink & Lemonade

English | Cymraeg

Ein barn ar Gordon’s Pink & Lemonade

Sgôr:

3/5

ABV: 0.0%

Calorïau ymhob can: 8

Mae’r coctel parod yma – gan un o ddistyllfeydd jin mwyaf poblogaidd Prydain – yn ddiod ysgafn ac adfywiol, llawn blasau ffrwythus a blodeuog. Yn eu plith mae mafon a rhosod. Yr unig wendid gawson ni oedd yr adflas gorfelys. At ei gilydd, ddim yn ddiod wael o gwbl.

Er gwaetha’r melystra, mae’n rhyfeddol o brin o galorïau – cwta 8 ymhob can.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​