Gordon’s Premium Pink

English | Cymraeg

Ein barn ar Gordon’s Premium Pink.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 11

Lansiodd Gordon’s eu jin di-alcohol cyntaf yn 2020 ac, yn ôl pob golwg, mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Digon poblogaidd iddyn nhw fentro i’r farchnad gyda jin dirwestol arall yn 2022. Roedden ni’n hoffi hwn gryn dipyn, er nad yw cweit cymaint â’i ragflaenydd. Mae ganddo liw pinc hyfryd, a blas mafon melys, wedi’i gydbwyso gan ychydig o berlysiau chwerw. Wedi’i chymysgu gyda tonic, mae’n gwneud diod ffrwythus ddymunol iawn. Ond os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n blasu fel jin, efallai nad dyma’r ddiod i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​